Skip to main content
Skip to main content

English

Bydd y dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am sut i riportio trosedd casineb, beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn riportio trosedd a rhywfaint o’r gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru os ydych wedi dioddef trosedd casineb.

Ar y dudalen hon rydym yn defnyddio ‘trosedd casineb’ i ddisgrifio unrhyw beth sy’n digwydd i chi oherwydd bod rhywun wedi cymryd yn eich erbyn.

Beth ydi trosedd casineb?

Gall trosedd casineb fod yn:

  • Rhywun yn galw enwau arnoch
  • Rhywun yn eich taro a’ch pwnio
  • Rhywun yn gwneud hwyl am eich pen
  • Rhywun yn eich bwlio
  • Rhywun yn eich dychryn
  • Rhywun yn dwyn neu’n difrodi eich eiddo

Gall troseddau casineb ddigwydd oherwydd eich:

  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Hunaniaeth rhyw
  • Anabledd – gan gynnwys anabledd dysgu, anabledd corfforol ac iechyd meddwl

Sut alla i riportio trosedd casineb?

Gallwch riportio trosedd casineb yn syth i’r heddlu drwy fynd i’ch gorsaf heddlu leol, ffonio 101 os ydyw’n ddigwyddiad difrys neu 999 mewn argyfwng.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich timau plismona lleol yma:

Os hoffech riportio trosedd ar-lein, gallwch ddefnyddio ffurflen riportio ar-lein True Vision, fydd yn cael ei e-bostio i’ch Heddlu lleol. 

Rwyf am gyflwyno adroddiad i'r:

Hefyd gallwch riportio trosedd casineb sydd wedi digwydd i rywun arall, er enghraifft i ffrind neu aelod o’r teulu, neu rywbeth yr ydych wedi’i weld ar-lein neu ar gyfryngau cymdeithasol.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn riportio
trosedd casineb i’r Heddlu?