Bydd y dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am sut i riportio trosedd casineb, beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn riportio trosedd a rhywfaint o’r gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru os ydych wedi dioddef trosedd casineb.
Ar y dudalen hon rydym yn defnyddio ‘trosedd casineb’ i ddisgrifio unrhyw beth sy’n digwydd i chi oherwydd bod rhywun wedi cymryd yn eich erbyn.
Beth ydi trosedd casineb?
Gall trosedd casineb fod yn:
- Rhywun yn galw enwau arnoch
- Rhywun yn eich taro a’ch pwnio
- Rhywun yn gwneud hwyl am eich pen
- Rhywun yn eich bwlio
- Rhywun yn eich dychryn
- Rhywun yn dwyn neu’n difrodi eich eiddo
Gall troseddau casineb ddigwydd oherwydd eich: Hil, Crefydd neu gred, Cyfeiriadedd rhywiol, Hunaniaeth rhyw, Anabledd – gan gynnwys anabledd dysgu, anabledd corfforol ac iechyd meddwl.
Sut alla i riportio trosedd casineb?
Gallwch riportio trosedd casineb yn syth i’r heddlu drwy fynd i’ch gorsaf heddlu leol, ffonio 101 os ydyw’n ddigwyddiad difrys neu 999 mewn argyfwng.
Os hoffech riportio trosedd ar-lein, gallwch ddefnyddio ffurflen riportio ar-lein True Vision, fydd yn cael ei e-bostio i’ch Heddlu lleol.
Hefyd gallwch riportio trosedd casineb sydd wedi digwydd i rywun arall, er enghraifft i ffrind neu aelod o’r teulu, neu rywbeth yr ydych wedi’i weld ar-lein neu ar gyfryngau cymdeithasol.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn riportio trosedd casineb i’r Heddlu?
