Skip to main content

Os byddwch yn riportio trosedd casineb i’r Heddlu, fe gewch rif digwyddiad a bydd swyddog yn cysylltu â chi i drafod beth sydd wedi digwydd.

Bydd y swyddog sy’n delio gyda’r digwyddiad yn eich diweddaru ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf. Erbyn hyn mae gan bob un o heddluoedd Cymru Swyddogion Cefnogi Troseddau Casineb.

Mae’r 4 heddlu yng Nghymru wedi ymrwymo i atal a thaclo troseddau casineb, ond maent angen eich help chi. Os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb, yna plîs dywedwch wrth rywun.

Beth os nad ydw i eisiau siarad â’r Heddlu?

Mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn elusen genedlaethol annibynnol a sefydlwyd dros 40 mlynedd yn ôl i gefnogi dioddefwyr trosedd, ac yn rhedeg Canolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb yng Nghymru.

Ffoniwch: 0300 30 31 982 (Am ddim 24/7). Ebost: [email protected].

Neu gallwch lenwi y ffurflen atgyfeirio ar-lein sydd ar eu gwefan.