Mae’r 4 heddlu yng Nghymru wedi ymrwymo i atal a thaclo troseddau casineb, ond maent angen eich help chi. Os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb, yna plîs dywedwch wrth rywun.
Mwy o wybodaeth am droseddau casineb yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi dioddefwyr troseddau casineb, hybu ymwybyddiaeth o fewn cymunedau o effeithiau troseddau casineb a gweithio gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol.
Mi wnaeth Prosiect Ymchwil Troseddau Casineb Cymru Gyfan a oedd yn weithredol rhwng 2010 a 2013 ymchwilio i natur ac effaith troseddau casineb yng Nghymru.
Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Troseddau Casineb Cymru yn bartneriaeth o asiantaethau statudol a gwirfoddol a sefydlwyd i sicrhau bod asiantaethau Cyfiawnder Troseddol yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod troseddau casineb yn cael eu trin yn effeithiol ac yn iawn.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyfrifol am sicrhau bod troseddau casineb yn cael eu cydnabod yn y Llys a bod unigolion yn cael eu heuogfarnu am eu cyflawni.
