Skip to main content
Skip to main content

Mae’r 4 heddlu yng Nghymru wedi ymrwymo i atal a thaclo troseddau casineb, ond maent angen eich help chi. Os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb, yna plîs dywedwch wrth rywun.

Mwy o wybodaeth am droseddau casineb yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi dioddefwyr troseddau casineb, hybu ymwybyddiaeth o fewn cymunedau o effeithiau troseddau casineb a gweithio gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol er mwyn sicrhau bod troseddau casineb yn cael y sylw dyladwy. Gallwch ddarllen mwy am sut maent yn helpu i wneud hyn yn eu Fframwaith Gweithredu.

Mi wnaeth Prosiect Ymchwil Troseddau Casineb Cymru Gyfan a oedd yn weithredol rhwng 2010 a 2013 ymchwilio i natur ac effaith troseddau casineb yng Nghymru. Gallwch ddarllen mwy am ddarganfyddiadau’r prosiect ac am brofiadau pobl o droseddau casineb yng Nghymru ar wefan y prosiect.

Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Troseddau Casineb Cymru yn bartneriaeth o asiantaethau statudol a gwirfoddol a sefydlwyd i sicrhau bod asiantaethau Cyfiawnder Troseddol (GEG, Gwasanaeth Prawf, Heddlu) yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod troseddau casineb yn cael eu trin yn effeithiol ac yn iawn. Os hoffech ddysgu mwy am waith y Bwrdd yna cysylltwch â Nathan Cook 

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyfrifol am sicrhau bod troseddau casineb yn cael eu cydnabod yn y Llys a bod unigolion yn cael eu heuogfarnu am eu cyflawni. Gallwch ddarllen mwy am yr arweiniad maent yn ei roi am euogfarnu troseddau casineb yn yr adran Arweiniad Cyfreithiol ar eu gwefan.

http://www.cps.gov.uk/legal/h_to_k/homophobic_and_transphobic_hate_crime/

http://www.cps.gov.uk/legal/d_to_g/disability_hate_crime/

http://www.cps.gov.uk/legal/p_to_r/racist_and_religious_crime/