Skip to main content
Skip to main content

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn riportio trosedd casineb i’r Heddlu?

Os byddwch yn riportio trosedd casineb i’r Heddlu, fe gewch rif digwyddiad a bydd swyddog yn cysylltu â chi i drafod beth sydd wedi digwydd. Yn ddibynnol ar beth sydd wedi digwydd, efallai y bydd rhaid i chi roi datganiad mewn gorsaf heddlu. Pan fyddwch yn cysylltu â’r Heddlu byddai’n ddefnyddiol egluro eich bod yn credu eich bod wedi dioddef trosedd casineb er mwyn iddynt sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth gywir.

Bydd y swyddog sy’n delio gyda’r digwyddiad yn eich diweddaru ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf. Erbyn hyn mae gan bob un o heddluoedd Cymru Swyddogion Cefnogi Troseddau Casineb - unigolion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ar ddeall troseddau casineb, yr effaith maent yn ei gael ar bobl, a sut y gellir delio â nhw’n effeithiol. Os nad ydych yn cael cynnig Swyddog Cefnogi Troseddau Casineb yna gallwch ofyn am un.

Mae’r 4 heddlu yng Nghymru wedi ymrwymo i atal a thaclo troseddau casineb, ond maent angen eich help chi. Os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb, yna plîs dywedwch wrth rywun.

Beth os nad ydw i eisiau siarad â’r Heddlu?

Mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn elusen genedlaethol annibynnol a sefydlwyd dros 40 mlynedd yn ôl i gefnogi dioddefwyr trosedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth ariannol i Cymorth i Ddioddefwyr i redeg Canolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb yng Nghymru ac i weithredu fel y darparwr cymorth swyddogol ar gyfer dioddefwyr digwyddiadau a throseddau casineb yng Nghymru, yn ogystal â bod yn ganolfan riportio trydydd parti genedlaethol.

Gall dioddefwyr gysylltu’n uniongyrchol â’u tîm troseddau casineb yn ddienw ac yn gyfrinachol heb orfod hysbysu’r Heddlu er mwyn cael mynediad at wasanaethau cefnogi;

Ffoniwch: 0300 30 31 982 (Am ddim 24/7)
Ebost: hatecrimewales@victimsupport.org.uk

Neu gallwch lenwi y ffurflen atgyfeirio ar-lein sydd ar eu gwefan

Os byddwch yn cysylltu â’r Heddlu yn uniongyrchol gan ddefnyddio 101 neu 999, bydd eich manylion yn cael eu pasio’n awtomatig i Cymorth i Ddioddefwyr.

Mae gwasanaethau Cymorth i Ddioddefwyr yn ddi-dâl ac yn cynnwys:

  • Adfocatiaeth
  • Cefnogaeth Emosiynol
  • Diogelwch Personol
  • Diogelwch yn y Cartref
  • Cyngor ar Leihau Trosedd
  • Cefnogaeth Ymarferol
  • Cymorth i Hawlio Iawndal am Anafiadau Difrifol (CICA)
  • Cefnogaeth Ariannol

Gall Cymorth i Ddioddefwyr gynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb yn eich cartref eich hun, cefnogaeth dros y ffôn neu mewn lleoliad yn y gymuned.

Rydym hefyd yn cynnig Sesiynau Hybu Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb AM DDIM i Grwpiau Cymunedol a chyrff statudol a gallwch gael mwy o wybodaeth am y rhain drwy gysylltu â Gareth.cuerden@victimsupport.org.uk